Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

                    

                                       

               23 Gorffennaf 2013

Annwyl Gyfaill,

 

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal  ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.  

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

-     Archwilio sut y mae'r GIG yn asesu manteision posibl unrhyw dechnolegau meddygol newydd neu amgen;

-     Archwilio'r angen i fabwysiadu dulliau mwy cydgysylltiedig o gomisiynu yn y maes hwn, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;

-     Archwilio sut y mae GIG Cymru yn ymwneud â'r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu / cynhyrchu technolegau meddygol newydd;

-     Archwilio'r ffactorau ariannol a all fod yn rhwystr i'r broses o fabwysiadu technolegau meddygol newydd effeithiol, a dulliau arloesol o oresgyn y rhwystrau hyn.

Mae'r cylch gorchwyl hwn wedi'i seilio ar broses ymgynghori a gynhaliodd y Pwyllgor yn hydref 2012 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Sylwch nad yw'r Pwyllgor yn bwriadu trafod mynediad i feddyginiaethau fel rhan o'r ymchwiliad hwn, dim ond technolegau meddygol.  

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad.

 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ddechrau 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.  

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisiau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny'n berthnasol, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i Pwyllgor.IGC@cymru.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 18 Hydref 2013. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Wrth baratoi'ch sylwadau, cofiwch:

-       ddefnyddio dim mwy na phum ochr A4

-       defnyddio paragraffau wedi'u rhifo;

-       (os byddwch yn eu hanfon yn electronig) byddai'n well defnyddio dogfennau Word, yn hytrach na ffeiliau pdf;

-       canolbwyntio ar y cylch gorchwyl uchod.

 

Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gofyn i'r rhai sydd wedi'u cynnwys ar y rhestr atodol anfon sylwadau. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar petaech yn gallu anfon copi o'r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y rhestr, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os cawn gais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, mae'n bosibl y bydd angen datgelu'r wybodaeth a gawsom gennych.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

David Rees AC

Cadeirydd

 


Atodiad: Rhestr Ddosbarthu

 

Byrddau Iechyd Lleol

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

 

Ymddiriedolaethau Iechyd

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

Cynghorau Iechyd Cymuned

Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed

Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a'r Fro

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

Cyngor Iechyd Cymuned Trefaldwyn

 

Asiantaethau Swyddogol

Grŵp Strategol Meddyginiaethau Cymru Gyfan

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 

Cyngor Gofal Cymru

Comisiynydd Plant Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd

Atebion Iechyd Cymru

Bwrdd Arferion Gorau ac Arloesi ym maes Iechyd a Lles

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Sefydliad Iechyd Gwledig

Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd(MHRA)

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)

Cyd-bartneriaeth Gwasanaethau'r GIG

Rhaglen Gwerthuso Technolegau Meddygol yn NICE

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol

Swyddfa Archwilio Cymru

Pwyllgor Cynghorol Iechyd Cymru (gan gynnwys Pwyllgor Cynghorol Gwyddonol Cymru)

Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol  Cymru

 

Cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach

Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru

Y Gynghrair Arthritis a Chyhyrysgerbydol 

Y Gymdeithas Biocemeg Glinigol

Cymdeithas Anesthetyddion Prydain Fawr ac Iwerddon

Cymdeithas Llawfeddygaeth y Fron

Cymdeithas Niwrolegwyr Prydain

Cymdeithas Diwydiannau Gofal Iechyd Prydain (ABHI)

Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol (ABPI)

Cymdeithas Coloproctoleg Prydain Fawr ac Iwerddon

Cymdeithas Llawfeddygon Laparosgopig Prydain Fawr ac Iwerddon

Cymdeithas Darparwyr Technoleg Gofal Iechyd ar gyfer Creu Delweddau, Radiotherapi a Gofal (AXrEM)

Cymdeithas Llawfeddygon Gastroberfeddol Prydain Fawr ac Iwerddon

Canolfan Diabetes ac Endocrin Abermaw

Cymdeithas Llawfeddygaeth Pen-gliniau Prydain

Cymdeithas Astudiaethau Cur Pen Prydain

Cymdeithas Astudiaethau'r Afu Prydain 

Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain

Cymdeithas Prydain ar gyfer Oncologwyr y Pen a'r Gwddf

Cymdeithas Llawfeddygon y Genau a'r Wyneb Prydain  

Cymdeithas Otorhinolaryngolegwyr Prydain, Llawfeddygon y Pen a'r Gwddf

Cymdeithas Llawfeddygon Endosgopig Pediatrig Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon Pediatrig Prydain

Cymdeithas Prydain ar gyfer Llawfeddygon Adluniol a Phlastig Esthetig   

Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon y Cefn Prydain

Cymdeithas Meddygon Strôc Prydain

Cymdeithas Oncoleg Lawfeddygol Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon Thyroid ac Endocrin Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon Wrolegol Prydain

Cymdeithas Ymyrraeth Gardiofasgwlaidd Prydain

Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Prydain

Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Cymdeithas Penelinoedd ac Ysgwyddau Prydain

Cymdeithas Canser Gynaecolegol Prydain

Cymdeithas Cluniau Prydain

Cymdeithas HIV Prydain

Cymdeithas Diagnosteg In Vitro Prydain (BIVDA)

Cymdeithas Adlunio Breichiau a Choesau Prydain

Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygaeth y Fam a'r Ffoetws

Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)

Cymdeithas Laser Meddygol Prydain

Cymdeithas Nwiro-oncoleg Prydain

Cymdeithas Orthodontig Prydain

Cymdeithas Orthopedig Prydain

Cymdeithas Traed a Migyrnau Orthopedig Prydain

Cymdeithas Arbenigwyr Orthopedig Prydain

Cymdeithas Niwroleg Bediatrig Prydain

Cymdeithas Llawfeddygaeth Dwylo Prydain

Cymdeithas Radioleg y Fron Prydain

Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain

Cymdeithas Ymyrraeth Radiolegol Prydain

Cymdeithas Ymyrraeth Radiolegol Prydain

Cymdeithas Meddygaeth Adsefydlu Prydain

Cymdeithas Radiolegwyr Ysgerbydol Prydain

Cymdeithas Thorasig Prydain

Cymdeithas Trawsblannu Prydain

Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Cymdeithas Meddygon Ymgynghorol ac Arbenigwyr Ysbytai

Coleg Meddygaeth Frys

Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Coleg yr Optemetryddion

Fferylliaeth Gymunedol Cymru

DTR medical

GlaxoSmithKline

Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol

Y Cyngor Fferylliaeth Cyffredinol

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Y Cyngor Optegol Cyffredinol

Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Heart Rhythm UK

Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth

Medi Wales

Y Grŵp Technoleg Feddygol

Cymdeithas Gofal Dwys Pediatrig

Cymdeithas Bancreatig Prydain Fawr ac Iwerddon

Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Canolfan Arloesi ac Ymchwil Clinigol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Coleg Brenhinol y Nyrsys

Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr

Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Coleg Brenhinol Ffisigwyr Llundain

Coleg Brenhinol Ffisigwyr, Caeredin

Coleg Brenhinol Ffisigwyr a Llawfeddygon, Glasgow

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 

Coleg Brenhinol y Radiolegwyr

Coleg Brenhinol y Llawfeddygon

Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cymdeithas Ymchwil i Adsefydlu

Cymdeithas Llawfeddygon Niwrolegol Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon Cardiothorasig Prydain Fawr ac Iwerddon

Cymdeithas y Ciropodyddion a'r Podiatryddion 

Cymdeithas a Choleg y Radiograffyddion

Cymdeithas Poen Prydain

Cymdeithas Llawfeddygon Cataractau a Phlygiant y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Cymdeithas y Fasnach Wroleg

Y Gymdeithas Fasgwlar

Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi Cymru

Cymdeithas Gofal Dwys Cymru

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

 

Elusennau a'r trydydd sector

Cymdeithas Elusennau Ymchwil Meddygol

Action on Hearing Loss Cymru

Cynghrair Henoed Cymru

Afasic

Age Cymru

Cymdeithas Alzheimer

Gofal Arthritis yng Nghymru

Ymchwil Arthritis y DU

ASBAH Cymru (Association of Spina Bifida and Hydrocephalus Cymru)

Sefydliad Bevan

Sefydliad yr ymennydd a’r cefn.

Cymdeithas Cleifion y Galon Prydain 

Sefydliad Prydeinig y Galon 

Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint 

Cancer Research UK

Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Cynhalwyr Cymru

Canolfan Byw'n Annibynnol

Plant yng Nghymru

 

Cyswllt Teulu

Yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig

Dementia UK

Diabetes UK

Anabledd Cymru

Epilepsy Action Cymru

Cynghrair Geneteg y DU

Hafal

Ymchwil y Galon y DU

Sefydliad Ymchwil Diabetes mewn Pobl Ifanc

Cymorth Canser Macmillan

Gofal Canser Marie Curie

Mencap Cymru

Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor

Multiple Sclerosis Society

Ymchwil Nychdod Cyhyrol

Parkinson’s UK Cymru

Cymdeithas y Cleifion

Canser y Prostad y DU

 Clefydau Anghyffredin y DU

Scope Cymru

Stonewall Cymru

Y Gymdeithas Strôc

Tenovus

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Sefydliad Wolfson

Wellcome Trust

 

Academia

Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

Academi'r Gwyddorau Meddygol

Yr Athro Dyfrig Hughes, Prifysgol Bangor - Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau

Ysgol y Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor

Partneriaid Iechyd Prifysgol Caergrawnt

Prifysgol Caerdydd

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd

Cedar, Canolfan Werthuso'r GIG

Canolfan ar gyfer yr Agweddau Economaidd a Chymdeithasol ar Genomeg

Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Iechyd

Rhaglen Cydweithredu Academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd y Coleg Imperialaidd

Y Sefydliad Ymchwil Meddygaeth a Gofal Cymdeithasol

Partneriaid Iechyd King's

Rhaglen Cydweithredu Academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd Manceinion

Y Cyngor Ymchwil Feddygol

National Institute for Health Research Horizon Scanning Centre (NHSC)

Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hŷn a Heneiddio

Yr Athro Ceri Phillips, Prifysgol Abertawe - Canolfan Economeg Iechyd Abertawe

Canolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe

Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe

Adran Iechyd Cyhoeddus ac Astudiaethau Polisi Prifysgol Abertawe

Parc Geneteg Cymru

Partneriaid UCL

Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC)

Uned Economeg Iechyd a Pholisi Ymchwil Prifysgol Morgannwg (HEPRU)

 

Arall

Byddwn yn gofyn i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ynghylch cwmpas yr ymchwiliad gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.